2 Samuel 1

Dafydd yn clywed fod Saul wedi marw

1Ar ôl i Saul farw, a Dafydd newydd orchfygu'r Amaleciaid a mynd yn ôl i Siclag, roedd wedi bod yno am ddeuddydd 2pan ddaeth dyn ato y diwrnod wedyn o wersyll Saul. Roedd y dyn wedi rhwygo'i ddillad a rhoi pridd ar ei ben. Dyma fe'n dod at Dafydd a mynd ar ei liniau ac ymgrymu o'i flaen.

3“O ble rwyt ti wedi dod?” gofynnodd Dafydd. A dyma fe'n ateb, “Wedi dianc o wersyll Israel ydw i.” 4“Dywed wrtho i, beth sydd wedi digwydd?” holodd Dafydd. A dyma'r dyn yn dweud wrtho, “Roedd rhaid i filwyr Israel ffoi, a cafodd llawer ohonyn nhw eu hanafu a'u lladd. Mae Saul a'i fab Jonathan wedi eu lladd hefyd!”

5A dyma Dafydd yn gofyn iddo, “Sut wyt ti'n gwybod fod Saul a Jonathan wedi marw?” 6A dyma fe'n dweud, “Roeddwn i ar Fynydd Gilboa, a dyma fi'n digwydd dod ar draws Saul yn pwyso ar ei waywffon. Roedd cerbydau rhyfel a marchogion y gelyn yn dod yn agos ato. 7Trodd rownd, a dyma fe'n fy ngweld i a galw arna i. ‘Dyma fi,’ meddwn i. 8‘Pwy wyt ti?’ gofynnodd. A dyma fi'n ateb, ‘Amaleciad ydw i.’ 9A dyma fe'n crefu arna i, ‘Tyrd yma a lladd fi. Dw i'n wan ofnadwy, a prin yn dal yn fyw.’ 10Felly dyma fi'n mynd draw ato a'i ladd, achos roeddwn i'n gweld ei fod wedi ei anafu'n ddrwg, ac ar fin marw. Yna dyma fi'n cymryd ei goron a'i freichled, a dod â nhw yma i ti syr.”

11Dyma Dafydd yn rhwygo ei ddillad; a dyma'r dynion oedd gydag e yn gwneud yr un fath. 12Buon nhw'n galaru ac yn wylo ac ymprydio drwy'r dydd dros Saul a'i fab Jonathan, a dros fyddin yr Arglwydd, pobl Israel oedd wedi cael eu lladd yn y frwydr.

13Dyma Dafydd yn gofyn i'r dyn ifanc oedd wedi dod â'r neges iddo, “Un o ble wyt ti?”

“Mab i Amaleciad wnaeth symud yma i fyw ydw i,” atebodd y dyn. 14“Sut bod gen ti ddim ofn lladd y dyn roedd yr Arglwydd wedi ei eneinio'n frenin?” meddai Dafydd. 15Yna dyma Dafydd yn galw un o'i filwyr, a dweud wrtho, “Tyrd yma. Lladd e!” A dyma'r milwr yn ei ladd yn y fan a'r lle. 16Roedd Dafydd wedi dweud wrtho, “Arnat ti mae'r bai dy fod ti'n mynd i farw. Ti wedi tystio yn dy erbyn dy hun drwy ddweud mai ti laddodd yr un roedd yr Arglwydd wedi ei eneinio'n frenin.”

Cân Dafydd, er cof am Saul a Jonathan

17Dyma Dafydd yn cyfansoddi'r gân yma i alaru am Saul a'i fab Jonathan. 18(Dwedodd fod pobl Jwda i'w dysgu hi – Cân y Bwa. Mae hi i'w chael yn Sgrôl Iashar.)
1:18 Sgrôl Iashar sef "Sgrôl y Cyfiawn". Casgliad o gerddi rhyfel falle.
:

19Mae ysblander Israel yn gorwedd yn farw ar ei bryniau.
O, mae'r arwyr dewr wedi syrthio!
20Peidiwch dweud am y peth yn Gath,
peidiwch sôn am hyn ar strydoedd Ashcelon
1:20 Gath … Ashcelon Dwy o brif drefi'r Philistiaid

rhag i ferched y Philistiaid orfoleddu,
a merched y paganiaid ddathlu.
21Boed dim mwy o wlith a glaw ar fynyddoedd Gilboa!
Dim mwy o gnydau'n tyfu yno!
Dyna lle cafodd tariannau'r arwyr eu baeddu;
mae tarian Saul yn dirywio, heb ei rhwbio ag olew.
22Roedd bwa saeth Jonathan bob amser yn tynnu gwaed
ac yn taro cnawd milwyr y gelyn.
Doedd cleddyf Saul byth yn dod yn ôl yn lân.
23Saul a Jonathan –
mor annwyl, mor boblogaidd!
Gyda'i gilydd wrth fyw ac wrth farw!
Yn gyflymach nag eryrod,
yn gryfach na llewod.
24Ferched Israel, wylwch am Saul.
Fe oedd yn rhoi dillad drud i chi
a thlysau aur i'w haddurno.
25Mae'r arwyr dewr wedi syrthio'n y frwydr.
Mae Jonathan yn gorwedd yn farw ar y bryniau.
26Dw i'n galaru ar dy ôl di Jonathan, fy mrawd.
Roeddet ti mor annwyl i mi.
Roedd dy gariad
1:26 dy gariad Mae testunau hynafol o'r Dwyrain Canol yn sôn am frenhinoedd oedd mewn cynghrair gwleidyddol â'i gilydd yn ‛caru‛ ei gilydd – gw. hefyd 1 Brenhinoedd 5:1
di ata i mor sbesial,
roedd yn well na chariad merched.
27O, mae'r arwyr dewr wedi syrthio;
mae'r arfau rhyfel wedi mynd!
Copyright information for CYM